Os oes gennych syndrom Down ac rydych am ddod o hyd i gyfleoedd gwaith, cofrestrwch ar y rhaglen WorkFit isod.
Mae gwaith yn golygu gwahanol bethau i wahanol bobl. Mae rhai pobl eisiau swydd â thâl; mae rhai pobl eisiau gwneud gwaith gwirfoddol neu ddi-dâl.
Bydd staff WorkFit yn gwrando ar eich gobeithion ac uchelgeisiau a gallant eich helpu i fod yn fwy annibynnol, cael sgiliau newydd, cwrdd â phobl newydd, ennill arian, ac ymfalchïo ynoch eich hunan.
Gweler isod i gael gwybod rhagor ar eich opsiynau.
Gwaith am dâl
Cewch eich cymryd gan gyflogwr fel cyflogai â thâl. Bydd gennych gontract gwaith a hawliau cyflogaeth.
Budd-daliadau:
- Yn annog annibyniaeth
- Cael sgiliau newydd yn gysylltiedig â bywyd cymdeithasol i oedolion
- Cylch ehangach o ffrindiau
- Ennill hyd yn oed mwy o hyder
Benefits Information
To find out how paid work will affect your benefits click here.
Pa gefnogaeth fyddaf yn ei chael?
Bydd y DSA yn sicrhau bod y swydd yn addas ar gyfer eich gofynion personol a'ch anghenion ynghylch cefnogaeth, yn cynnig cynnydd trwy hyfforddiant.
Byddwn yn eich cysylltu â'r asiantaeth gymorth ac/neu gyflogwr cywir.
Os ydych am ddod o hyd i waith â thâl, cofrestrwch gyda'r Prosiect WorkFit.Os oes arnoch angen help, gofynnwch i'ch gofalwr/rhiant.
Meet Timothy
Timothy works at Timpson Ltd.
Read more…